Beti A'i Phobol

Kath Morgan

Informações:

Sinopsis

Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed. Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa. Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.