Beti A'i Phobol

Annie Walker

Informações:

Sinopsis

Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times. Mae hi’n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a’r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r newyddiadurwr a’r darlledwr Giles Coren. Fe enillodd Ann gystadleuaeth yng nghylchgrawn GIRL. Cafodd dipyn o syndod o gael ei galw i gyfweliad yn Llundain gan fod 17,000 o ferched wedi anfon lluniau i mewn i'r cylchgrawn. Y wobr oedd cael mynd i Florence yn yr Eidal i weld lluniau a cherfluniau o'r Dadeni (Renaissance). Joyce Fitzwilliams oedd yr athrawes gyda hi i Florence, ac roedd yn drip anhygoel, gan gyfarfod â Pietro Annigoni yn ei stiwdio. 'Roedd ef wedi dod yn enwog iawn ar ôl gwneud portread o'r Frenhines. '