Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editor: Podcast
  • Duración: 428:06:47
  • Mas informaciones

Informações:

Sinopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodios

  • Kath Morgan

    08/01/2023 Duración: 51min

    Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed. Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa. Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.

  • Rhian Morgan

    01/01/2023 Duración: 50min

    Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a’i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw’r hynaf o dair chwaer; mae Nia yn nyrs yn Awstralia ac mae Elen yn darlithio a chyfarwyddo. Mae Rhian yn briod gydag Aled Samuel ac mae ganddi ddau o feibion. Ar hyd y blynyddoedd mae Rhian wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i chwarae nifer fawr o rannau mewn dramâu ac mewn cynyrchiadau teledu, mae’n sôn am rai ohonynt gan gynnwys y cyfle i actio efo Anthony Hopkins yn y ffilm August.

  • Marc Howells

    18/12/2022 Duración: 50min

    Marc Howells, Pennaeth Datblygu Pobl a Thalent AstraZeneca, yw gwestai Beti George. Mae’n gyfrifol am 100 mil o bobol ar draws y byd, gan weithio rhwng Caergrawnt a’i gartref yng Ngresffordd. Bu’n gweithio gyda’r cwmni yn China, Awstralia a Philadelphia. Mae’r cwmni’n cynhyrchu cyffuriau sy’n ymwneud efo problemau’r ysgyfaint, y galon a chanser. Mae’r ffaith bod y cwmni wedi datblygu brechlyn Covid yn rhyfeddol meddai Marc, gan nad ydi’r cwmni yn cynhyrchu brechlynnau fel arfer. Cyn Covid dim ond dau frechlyn roeddynt yn ei gynhyrchu. Daw Marc yn wreiddiol o Ddinbych, ac ar ôl gadael Ysgol Glan Clwyd fe wnaeth brentisiaeth gyda Chwmni Pilkington yn Llanelwy. Roedd yn gweithio ar gynhyrchu rhannau ar gyfer peiriannau’r Fyddin (awyrennau, llongau tanfor, tanciau). Symudodd wedyn i adran arall o fewn y cwmni, sef yr Adran Ddiogelwch Ffibr Opteg, gwaith hynod o ddiddorol meddai Marc. Roedd yn cael mynd i bob mathau o lefydd i osod systemau, yn cynnwys Comin Greenham. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywo

  • Shan Jamil Ashton

    11/12/2022 Duración: 50min

    Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy’r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd. Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi’n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi! Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

  • Sylvia Davies

    04/12/2022 Duración: 52min

    Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fydda fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi a’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod a’r galar. Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yn Thailand a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu'r straeon ei bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

  • Y Parchedig John Owain Jones

    27/11/2022 Duración: 51min

    Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau’n ffrindiau pennaf a bu’n was priodas i’w Dad. Priododd ei fam a’i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a’i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu’n mynd draw i Ynys Bute

  • Iestyn Davies

    20/11/2022 Duración: 50min

    Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith. Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd. Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.

  • Ann Jones

    14/11/2022 Duración: 47min

    Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yw gwestai Beti George. Cawn wybod am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, dylanwad y Ffermwyr Ifaic arni, ac am waith Sefydliad y Merched.

  • Grant Peisley

    14/11/2022 Duración: 49min

    Grant Peisley sydd yn sgwrsio gyda Beti George, dyn o Awstralia sydd wedi setlo yn ardal Caernarfon ac yn gwneud llawer o waith gydag ynni cymunedol ac yn sefydlwr cwmnïau megis YnNi Teg a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG).

  • Sioned Llywelyn Williams

    14/11/2022 Duración: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw busnes Sioned Llywelyn Williams o Lanuwchllyn sydd yn trafod steil a cholur ac am ei amryfal fusnesau yn ei hardal enedigol.

  • John Derrick, Rheolwr Gyfarwyddwr J. P. Morgan y DU

    14/11/2022 Duración: 46min

    Beti George yn sgwrsio gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Banc J.P. Morgan ym Mhrydain, John Derrick. Cawn glywed am ei fagwraeth yn Llanelli cyn mynd ati i weithio yn y byd arian yn y ddinas, heb sôn am 3 mlynedd yn gwerthu gwin o gwmpas y byd.

  • Euros Lyn

    14/11/2022 Duración: 51min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Euros Lyn. Mae'n son am ei blentyndod a'i fagwraeth mewn llefydd fel Guyana, Llanrug a Chwmtawe,. Hefyd, mae'n sgwrsio am ei waith yn gweithio ar gyfresi fel Dr Who, a'i gynhyrchiad diweddaraf sef y ffilm Dream Horse.

  • Elis James

    14/11/2022 Duración: 50min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r comedïwr Elis James. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin a'i ddechreuad fel comedïwr, yn ogystal â thrafod ei hoffter mawr o gerddoriaeth a phêl-droed.

  • Meleri Davies

    13/11/2022 Duración: 50min

    "Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref , fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain. Dechreuodd P

  • Eluned Morgan AS

    06/11/2022 Duración: 51min

    Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George. “Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a’i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Beti yn ei holi am yr heriau mae hi’n ei wynebu - o gyfnod Cofid i’r rhestrau aros am driniaethau NHS. Hefyd mae'n sôn am ei gwr sef “ei ffrind gorau” y meddyg a’r offeiriad Rhys Jenkins, a’u hoffter o ganeuon Queen.

  • Mirain Iwerydd

    30/10/2022 Duración: 49min

    Y cyflwynydd Mirain Iwerydd yw gwestai Beti George. Mae Mirain yn dod o Grymych ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn, mae hi'n cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 ar fore Sul ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Mae'n byw yn Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg yn y brifysgol yno. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau gwnïo, cymdeithasu a theithio. Mae hi'n ddiolchgar iawn i Fudiad Ffermwyr Ifanc ac yn diolch am yr hyder a gafodd wrth gystadlu gyda'r adran. Mae hi hefyd yn trafod pwysigrwydd Mis Dathlu Diwylliant Pobol Dduon,"shwt arall ydym ni'n mynd i gael cynrychiolaeth deg".

  • Eurig Druce

    23/10/2022 Duración: 50min

    Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George. Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant. Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti. Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dde Lloegr yn wreiddiol, a'i Nain yn dod o Drawsfynydd - roedd ei daid yn gweithio yn y camp gerllaw adeg rhyfel fel milwr a chyfarfod felly. Mae wedi colli rhan fwyaf o’i olwg yn ei llygaid chwith: Pan oedd o rhyw 3-4 oed roedd yn chwarae yn yr ardd efo cane oedd yn dal planhigyn i fyny. Wrth fownsio’r cane, daeth allan o’r ddaear a mynd syth i’w lygaid. Mae’n cofio bod efo’i fam a’i dad, a’r sôn am fynd a fo mewn ambiwlans ac yntau’n dechrau crio. Dim ond 20% o’i olwg sydd ganddo yn ei lygaid, ond gan ei fod

  • Joe Healy

    16/10/2022 Duración: 50min

    Joe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dewis ei hoff ganeuon yn cynnwys rhai gan Breichiau Hir a Datblygu. Llun: Dafydd Owen - ffotoNant.

  • Bethan Wyn Jones

    09/10/2022 Duración: 51min

    Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd yn y Daily Post Cymraeg ydy gwestai Beti George yr wythnos hon, sef Bethan Wyn Jones. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Cafodd ei magu ym mhentref Talwrn ger Llangefni ac mae Bethan yn dal i fyw yn yr un tŷ. Mae hi'n rhannu hanesion bywyd ac yn trafod galar gyda Beti ac yn credu nad ydym ni'n siarad digon amdano.

  • Rhiannon Evans

    02/10/2022 Duración: 49min

    Ers pum degawd, mae Gemwaith Rhiannon wedi bod yn ganolbwynt i dwristiaid a phobl leol fel ei gilydd yn nhref Tregaron. Sŵoleg oedd ei phwnc gradd ac mae ganddi ddoethur hefyd. Hi oedd y cyntaf erioed i wneud PhD yn y Gymraeg a hynny ar bwnc ymbortheg anifeiliaid, ond yn hytrach na dilyn y trywydd yma, fe drodd at fyd busnes ac agor siop grefftau yn Nhregaron. Roedd hi’n un o dri gafodd brynu aur Cymreig, ac mae ei gemwaith Celtaidd yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi dysgu ei hun i wneud y gwaith.

página 4 de 29